I am hoping to put on some Welsh language Kum Nye (movement meditation) workshops and classes in Cardiff and in other areas. This will be inclusive to all Welsh speakers, from new speakers to those who are bilingual. Please feel free to get in touch if this interests you.
Dosbarthiadau a Gweithdai Kum Nye (Ioga Tibet) Newydd yng Nghaerdydd a Chymru
A oes gennych ddiddordeb mewn dilyn ioga araf sy'n helpu i dawelu'r meddwl a dod o hyd i lonyddwch mewnol?
Rwyf ar hyn o bryd yn dyfnhau fy hyfforddiant arlein i ddod yn athro Kum Nye. Mae Kum Nye yn ffurf Tibetiaidd ar ioga meddal ac araf, sy'n ein helpu i fyfyrio, ac i gysylltu ag ein bywydau mewnol.
Mae Kum Nye wedi bod yn rhan allweddol o fy nhaith fy hun (gan gynnwys astudiaethau seicotherapi gyda Sefydliad Karuna ac ysbrydoliaeth gan lyfrau Tarthang Tulku fel Kum Nye a The Joy of Being). Rwy'n dilyn arweiniad athrawon profiadol fel Matt Padwick, ac rwy'n gyffrous iawn i ddechrau rhannu'r ymarfer hwn gydag eraill.
Rhannu Kum Nye yn y Gymraeg
Fy nod yw cynnig dosbarthiadau a gweithdai Cymraeg fydd yn addas i bawb.
Fy nod yw cynnig dosbarthiadau a gweithdai Cymraeg fydd yn addas i bawb.
- Ble: Bydd y dosbarthiadau cyntaf yn cychwyn yng Nghanolfan Bwdhaidd Tibetaidd Treganna, Caerdydd.
- Y Cam Nesa: Gobeithio ehangu i gynnal gweithdai ar draws Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i un o’r dosbarthiadau cyntaf neu os hoffech wybod mwy, plis cysylltwch â fi i rannu eich diddordeb.
Cofion gorau,
Gwynfor
Gwynfor